Hafan

Newyddion

Adolygiadau

Bywgraffiad

Oriel

Ar Ddisg

Prynwch

C.V.

Clip Fidio

Cysylltwch

This site in English

Jeremy Huw Williams (baritôn)

Yn faritôn o Gymru, fe astudiodd Jeremy Huw Williams yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, yn y Stiwdio Opera Genedlaethol, a gyda April Cantelo. Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu rhan Guglielmo (Così fan tutte), ac ers hynny mae wedi canu dros ddeugain o rannau operatic. Mae wedi perfformio mewn neuaddau yn Ne a Gogledd America, Awstralia, Hong Kong, ac yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

Mae wedi ymddangos yn ddiweddar fel Escamillo (Carmen), Germont (La Traviata) a Marcello (La Bohème) ar gyfer Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Olivier (Capriccio), Papageno (Die Zauberflöte), George (Of Mice and Men gan Floyd), Guglielmo (Così fan tutte), Shchelkaov (Boris Godunov), a'r prif ran yn Till Eulenspiegel gan Karetnikov, oll ar gyfer L'Opéra de Nantes, Tarquinius (The Rape of Lucretia) Serezha (The Electrification of the Soviet Union) a Choregos (Punch and Judy) ar gyfer Music Theatre Wales, Teddy (The Silver Tassie) ar gyfer Opera Ireland, y Maer (Sirius on Earth) ar gyfer Almeida Opera, a Ned Keene (Peter Grimes) gyda'r CBSO.

Mae wedi rhoi datganiadau yn Neuadd Wigmore ac Ystafell Purcell, ac mewn nifer o wyliau cerddorol nodedig. Mae wedi ymddangos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn King Priam gan Tippett yn y Royal Festival Hall, gyda'r CBSO yn Summer's Last Will and Testament gan Lambert yn Symphony Hall, gyda'r Hallé yn y Messiah gan Handel yn Neuadd Bridgewater, gyda'r Philharmonia yn Requiem Mozart yn Neuadd Dewi Sant, Cerddorfa Symffonig y BBC yn Nhrydydd Symffoni Nielsen yn y Royal Albert Hall yn ystod Proms y BBC, gyda'r RLPO yn Carmina Burana gan Orff yn y Neuadd Philharmonig, Cerddorfa Philharmonig y BBC yn Offeren yn A Fflat gan Schubert, yr LPO yn O! Captain gan Watson, Cerddorfa Symffoni Bournemouth yn This Worlde's Joie gan Mathias yn Ngwyl y Tri Chor, Cerddorfa Gyngerdd yr RTE yn y Requiem gan Dvorak yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol yn Nulyn, yr Orchestre National de Lyon yn Sometime Voices gan Benjamin yn yr Auditorium de Lyon, Cerddorfa Gyngerdd y BBC yn y Crucifixion gan Stainer ar gyfer BBC Radio 2, a l'Orchestre Léonard de Vinci yn Requiem Brahms yn Nhy Opera Rouen.

Mae'n hysbys fel cyflwynydd medrus o gerddoriaeth gyfoes, ac yntau wedi comisiynu llawer o gerddoriaeth newydd, a rhoi perfformiadau cyntaf gweithiau gan Alun Hoddinott, William Mathias, John Tavener, Martin Butler, John Metcalf, Julian Phillips, Edward Dudley Hughes, Ian Wilson, Richard Causton, Edward Rushton a Huw Watkins. Mae wedi recordio'n aml ar gyfer BBC Radio 3 (mewn datganiadau unigol, a gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y CBSO, Cerddorfa Symffonig y BBC, a Cherddorfa Philharmonig y BBC), ac mae wedi ymddangos mewn mwy na deugain rhaglen deledu. Mae wedi cwblhau nifer o recordiadau masnachol, gan gynnwys saith disc unawdol o ganeuon. Ymddangosodd yn ddiweddar fel Sebastian yn The Tempest (Thomas Ades) ar gyfer l'Opera du Rhin yn Strasbourg a Mulhouse, a Mangus yn The Knot Garden ar gyfer Music Theatre Wales, dau gyd-gynhyrchiad a Thy Opera Brenhinol Covent Garden. Mae ei gynlluniau ar gyfer 2005/06 yn cynnwys rhan y Ferryman yn Curlew River yn nhai opera Trento a Pisa, a Kovalyov yn The Nose gyda'r Opera Group. Mae ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys rhan yr Astrologer yn The Burning Fiery Furnace a The Elder Son yn The Prodigal Son yn nhy opera Trento.

Yn Nhachwedd 2004 canodd rhan Rocco yn Fidelio gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar noson agoriadol Canolfan y Mileniwm, a derbyniodd Gwobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru.


Jeremy Huw Williams - Baritone
 
Diweddarwyd - 10/12/05
Crewyd gan Mabmedia