Stacks Image 2158
Yn faritôn o Gymru, fe astudiodd Jeremy Huw Williams yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, a chydag April Cantelo. Fe ddechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn canu rhan Guglielmo (Così fan tutte), ac ers hynny mae wedi canu mwy na thrigain o rannau operatic. Mae wedi perfformio mewn neuaddau yn Ne a Gogledd America, Awstralia, Tsieina, India, ac yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.

Yn Ffrainc mae wedi ymddangos fel Olivier (
Capriccio), Papageno (Die Zauberflöte), George (Of Mice and Men), Guglielmo (Così fan tutte), Shchelkalov (Boris Godunov), Baritôn (Hydrogen Jukebox) a'r prif ran yn Till Eulenspiegel gan Karetnikov, oll ar gyfer L'Opéra de Nantes, a Sebastian (The Tempest) ar gyfer L'Opéra du Rhin. Yn yr Eidal mae wedi canu rhan Nixon (Nixon in China) yn nhŷ opera Verona a’r Ferryman (Curlew River) yn nhai opera Pisa a Trento. Yng Ngroeg mae wedi canu rhan Chou En-lai (Nixon in China) ar gyfer Opera Cenedlaethol Groeg. Yng Ngwlad Belg mae wedi canu rhan Marcello (La Bohème) ar gyfer Zomeropera. Yn Norwy mae wedi canu rhan Papageno (Die Zauberflöte) ar gyfer Vest Norges Opera a Serezha (The Electrification of the Soviet Union) ar gyfer Opera Vest. Yn Awstria mae wedi canu rhan Dr Pangloss (Candide) yn Fienna, rhan a ailadroddodd yn Bremen, München, Leipzig, Suhl a Llundain. Yn yr UDA mae wedi canu rhan Lukash (The Good Soldier Schweik) ar gyfer Opera Long Beach.

Yng Nghymru mae wedi canu rhannau Guglielmo (
Così fan tutte), Escamillo (Carmen), Germont (La Traviata), Marcello (La Bohème) a Le Dancaïre (Carmen) ar gyfer Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru a rhannau Tarquinius (The Rape of Lucretia), Serezha (The Electrification of the Soviet Union), Choregos (Punch and Judy), Mangus (The Knot Garden) a Dr Simon Browne (For You) ar gyfer Music Theatre Wales. Yn Iwerddon mae wedi canu rhan Teddy (The Silver Tassie) ar gyfer Opera Iwerddon. Yn yr Alban mae wedi canu rhannau Andrew (74 Degrees North), y Tad (Zen Story), Epstein (The Letter) a Kommerzienrat (Intermezzo) ar gyfer Opera yr Alban.
Stacks Image 2155
Mae wedi rhoi datganiadau yn Neuadd Wigmore ac yn Ystafell Purcell, ac mewn nifer o wyliau cerddorol nodedig. Mae wedi ymddangos gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn King Priam gan Tippett yn y Royal Festival Hall, gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham yn Summer's Last Will and Testament gan Lambert yn Neuadd Symffoni, gyda'r Hallé yn y Messiah gan Handel yn Neuadd Bridgewater, gyda'r Philharmonia yn Requiem Mozart yn Neuadd Dewi Sant, gyda Cherddorfa Symffoni y BBC yn Nhrydydd Symffoni Nielsen yn Neuadd Frenhinol Albert yn ystod Proms y BBC, gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl yn Medieval Diptych gan Rawsthorne, gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban yn The Wound Dresser gan Adams yn City Halls, gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC yn yr Offeren yn A Fflat gan Schubert, gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol yn Nawfed Symffoni Beethoven, gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain yn O! Captain gan Watson, gyda Cherddorfa Ulster yn Theatre of Tango gan McDowall, gyda Cherddorfa Symffoni Bournemouth yn This Worlde's Joie gan Mathias yn Ngwyl y Tri Chôr, a chyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC yn y Crucifixion gan Stainer yng Nghadeirlan Southwark ar gyfer BBC Radio 2.

Mae hefyd wedi ymddangos gyda Cherddorfa Gyngerdd yr RTE yn y 
Requiem gan Dvořák yn y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol yn Nulyn, yr Orchestre National de Lyon yn Sometime Voices gan Benjamin yn yr Auditorium de Lyon, l'Orchestre Léonard de Vinci yn Requiem Brahms yn nhy opera Rouen, ac Orquestra Simfònica de Barcelona i Nacional de Catalunya yn Carmina Burana gan Orff yn yr Auditori yn Barcelona, a Sønderjyllands Symfoniorkester yn Weinachts-Oratorium gan Bach.

Mae'n hysbys fel cyflwynydd medrus o gerddoriaeth gyfoes, ac yntau wedi comisiynu llawer o gerddoriaeth newydd, a rhoi perfformiadau cyntaf gweithiau gan Alun Hoddinott, William Mathias, John Tavener, Michael Berkeley, Paul Mealor, Julian Philips, Richard Causton, Mark Bowden a Huw Watkins. Mae wedi recordio'n aml ar gyfer BBC Radio 3 (mewn datganiadau unigol, a chyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfa Symffoni y BBC, Cerddorfa Symffoni BBC yr Alban, Cerddorfa Ffilharmonig y BBC a Cherddorfa Gyngerdd y BBC), ac mae wedi ymddangos mewn mwy na deugain raglen deledu. Mae wedi cwblhau nifer o recordiadau masnachol, gan gynnwys mwy na deg disg unawdol o ganeuon. 
Stacks Image 2161
Ymddangosodd fel unawdydd gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru ar noson agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru, a derbyniodd Wobr Syr Geraint Evans gan Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru, gwobr a roddwyd am y tro cyntaf iddo yn 2004 am ei gyfraniad arwyddocaol i gerddoriaeth Gymreig: ‘gwnaethpwyd penderfyniad unfrydol y dylid cyflwyno’r wobr gyntaf i’r bariton Jeremy Huw Williams i gydnabod nid yn unig ei allu perfformio ond am y gefnogaeth aruthrol a roddodd i gyfansoddwyr Cymreig a’u cerddoriaeth yn ystod y blynyddoedd diweddar’.

Derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Glyndŵr yn 2009 am ei wasanaeth i gerddoriaeth, Doethuriaeth mewn Cerddoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberdeen yn 2011, Medal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2021, a Gwobr Goffa John Edwards 2022, y wobr di-gystadleuaeth pwysicaf a roddir yng Nghymru am gyfraniad i gerddoriaeth y genedl.